Skip to content

Croeso - Welcome

Croeso i Wefan Ysgol Ger y Llan

Ar ran y disgyblion, staff a llywodraethwyr, hoffwn eich croesawu’n gynnes i wefan Ysgol Ger y Llan.

Yn ein hysgol, rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd hapus, gofalgar a chefnogol. Credwn pan fod y plant yn hapus, maent yn fwy brwdfrydig i ddysgu ac yn fwy parod i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd. Caiff y lles hwn ei feithrin mewn amgylchedd dwyieithiog bywiog, lle mae’r Gymraeg, ein diwylliant a’n treftadaeth yn ganolog i bopeth a wnawn.

Rydym yn falch o gynnal safonau uchel o gyrhaeddiad ar gyfer pob disgybl, waeth beth fo’u gallu, cefndir, crefydd neu ryw. Mae brwdfrydedd ein dysgwyr yn cael ei annog yn ddyddiol, ynghyd â balchder cryf yn eu gwaith ac yn yr ysgol. Rydym yn dathlu llwyddiannau unigol ac yn meithrin awyrgylch o barch at ein hunain ac eraill.

Credwn fod hyder mewn ysgol yn tyfu drwy gyfathrebu clir a pherthnasoedd cryf. Drwy gydol y flwyddyn, gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau ysgol amrywiol—cyngherddau, gwasanaethau gweithgareddau Ffrindiau Ysgol Ger y Llan , a chyfarfodydd rhieni ac athrawon. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y wefan hon yn dod yn ffynhonnell werthfawr a rheolaidd o wybodaeth i chi, gan gynnwys newyddion, dyddiadau pwysig, hysbysiadau a chyngor i rieni.

Diolch i chi am ddangos diddordeb yn ein hysgol, yr ydym yn hynod falch ohoni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â dosbarth eich plentyn yn y lle cyntaf, neu â mi yn uniongyrchol gan ddefnyddio manylion ar dudalen ‘Manylion Cyswllt’ y wefan. Os hoffech drefnu ymweliad, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu—cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.

Mrs Christa Richardson

Pennaeth Ysgol Ger y Llan


Welcome to Ysgol Ger y Llan’s Website

On behalf of the pupils, staff, and governors, I would like to warmly welcome you to the Ysgol Ger y Llan website.

At our school, we are dedicated to creating a happy, caring, and supportive environment. We believe that when children are happy, they are more engaged in their learning and better prepared with the skills they need to succeed in life. This sense of well-being is fostered in a vibrant bilingual setting, where the Welsh language, culture, and heritage are central to everything we do.

We are proud to uphold high standards of achievement for every pupil, regardless of ability, background, religion, or gender. Our learners’ enthusiasm is encouraged every day, along with a strong sense of pride in their work and their school. We celebrate individual achievements and promote an atmosphere of respect for oneself and others.

We believe that confidence in a school grows through clear communication and strong relationships. Throughout the year, we hope you’ll join us for various school events—concerts, assemblies, Frindiau Ysgol Ger y Llan Friends activities, and parent-teacher meetings. We also aim for this website to become a valuable and regular source of information for you, where you can find updates on school news, key dates, notices, and resources for parents.

Thank you for taking the time to learn more about our school, which we are immensely proud of. If you have any questions or concerns, please don’t hesitate to contact your child’s class teacher or reach out to me directly using the details on our ‘Contact Details’ page. If you would like to arrange a visit, we’d be delighted to welcome you—please get in touch to make an appointment.

Mrs Christa Richardson

Headteacher Ysgol Ger y Llan