Skip to content

Ein gweledigaeth - Our Vision

Ethos a Chenadwri

Yn Ysgol Ger y Llan, ein nod yw darparu addysg o’r safon uchaf mewn amgylchedd gofalgar, hapus a hollol Gymreig. Rydym yn ymrwymedig i gydnabod ac ateb anghenion unigol pob plentyn. Anogir pob disgybl i feithrin hunan-barch ac i ddatblygu agweddau cadarnhaol, cyfrifol tuag at fywyd a dysgu.

Mae ethos cryf o waith caled yn treiddio drwy’r ysgol, gyda’r nod o ysbrydoli pob disgybl i gyflawni ei botensial llawn ac anelu at ragoriaeth ym mhob agwedd.

Mae ethos Cymreig yr ysgol yn adlewyrchu etifeddiaeth foesol, ysbrydol a diwylliannol gyfoethog Cymru, ac yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer bywyd, gwaith a chenhadaeth yr ysgol. Mae’r ethos hwn yn seiliedig ar werthoedd Cristnogol, sy’n rhoi cyfeiriad clir i fywyd beunyddiol yr ysgol ac yn siapio ysbryd y gymuned.

Credwn fod gan unrhyw sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ddyletswydd i weithredu bob amser er budd gorau pob plentyn, fel y nodir yn Erthygl 3 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.


Amcanion Craidd

  • Darparu pob cyfle i ddisgyblion ddatblygu i’w llawn botensial yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol.
  • Sicrhau bod pob disgybl yn meistroli’r Gymraeg fel iaith gyfathrebu ac fel cyfrwng dysgu.
  • Annog disgyblion i gyfrannu’n llawn, yn ôl eu gallu, i fywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach, yn lleol ac yn genedlaethol.
  • Cynnig cyfleoedd cyfartal i bawb, heb wahaniaethu ar sail gallu, rhyw, hil na chrefydd.

    Our Ethos and Mission

  • At Ysgol Ger y Llan, our goal is to provide the highest quality education in a nurturing, joyful, and wholly Welsh environment. We are committed to recognising and supporting the unique needs of every individual child. Each pupil is encouraged to build self-respect and to develop positive, responsible attitudes towards life and learning.
  • We foster a strong work ethic throughout the school, aiming to inspire every pupil to reach their full potential and strive for excellence in all they do.

    Our school’s Welsh ethos reflects the rich moral, spiritual, and cultural heritage of Wales, forming the foundation of our day-to-day work and overall mission. This ethos is firmly rooted in Christian values, which guide the daily life of the school and shape our community spirit.

    We believe that any organisation working with children has a duty to always act in the best interests of every child, as stated in Article 3 of the United Nations Convention on the Rights of the Child.


    Our Core Aims

  • To help every pupil achieve their full potential academically, socially, culturally, and physically.
  • To ensure all pupils gain confidence and fluency in using the Welsh language, especially as a key tool for learning.
  • To encourage pupils to take an active role in both the school and wider community, contributing positively according to their abilities.
  • To provide equal opportunities for all, free from discrimination based on ability, gender, race, or religion.